Rwyf wedi mwynhau mynd dan groen Tywyn a Bae Cinmel yn fawr ers fy nhaith gerdded gyntaf gyda’r tîm o ymgynghorwyr a fu’n cydweithio ar brosiect TKBVOICE ddiwedd mis Ionawr.
Yr hyn na wyddwn i ar y pryd oedd fy mod i fy hun wedi bod ar wyliau yn Nhowyn flynyddoedd lawer yn ôl. Fe wnes i ddarganfod hyn un noson wrth ymweld â fy rhieni, a dweud wrthyn nhw am y prosiect wythnos yn ddiweddarach.
Wedi fy ngeni yn Lerpwl yn y 1960au, roedd fy nheulu’n cymryd gwyliau gwersylla a charafán yn aml yng Ngogledd Cymru. Mae'n debyg i ni aros yng Ngwersyll Gwyliau Browns yn Nhowyn ambell dro yn y 1960au – pan oeddwn i'n fabi ac ychydig flynyddoedd wedyn yn blentyn bach. Gallwch weld y lluniau du a gwyn llwydaidd yma. Mae'r brychau a'r wynebau braidd yn swrth yr olwg yn ganlyniad i'r ffaith fy mod i a'm chwaer yn dioddef o frech yr ieir ar y pryd! Er mai niwlog neu prin ydy fy nghof i o'r cyfnod, mae mam, mewn cyferbyniad, yn cofio'r gwyliau hynny yn Nhowyn gyda hoffter mawr ac mewn manylder trawiadol.
Yn ystod un o’m Teithiau Cerdded a Sgyrsiau dydd Mercher ym mis Mawrth, bûm yn ymweld â Pharc Gwyliau Browns i ofyn iddyn nhw osod posteri am ein prosiect fel ein bod yn cyrraedd y rhai sy'n ymweld ar eu gwyliau ar benwythnosau, ac sy’n dod am wyliau hirach yn ystod y tymor brig. (Bu gwirfoddolwyr eraill yn ymweld â meysydd carafanau eraill). 50 mlynedd a mwy yn ddiweddarach, mae'r busnes yn dal i ymddangos yn gryf ac mae'r cymunedau carafanau yn Nhowyn a Bae Cinmel yn nodwedd barhaol o'r lle.
Heddiw, mae gan Towyn a Bae Cinmel boblogaeth o 7000, sy'n chwyddo i bron i 50,000 o ymwelwyr pan fydd y tymor gwyliau ar ei anterth. Mae hynny'n fewnlifiad mawr o bobl ac mae'n rhaid ei fod yn golygu cryn addasu i drigolion lleol. Dod o hyd i ffordd o gyd-fyw a gwerthfawrogi’r amrywiaeth hwn a dod o hyd i gonsensws am y ffordd i ddatblygu’r lle wrth symud ymlaen yw ein rôl fel ymgynghorwyr, yn gweithio gyda’r gymuned ac aelodau’r Bartneriaeth Gymunedol ac yn cael eu hysbysu ganddynt.
Mae gan fywyd, yn aml, ffordd o ddod yn ôl i'r dechrau ac mae’n teimlo’n arbennig i fod yn cefnogi’r gymuned yn Nhowyn a Bae Cinmel, wrth iddi ddod allan o’r pandemig, a chymryd y cyfle hwn i oedi a myfyrio ar yr hyn y mae pobl yn ei garu am y lle a sut all y gymuned gydweithio i'w wneud hyd yn oed yn well heddiw ac yn y dyfodol.
Y lluniau unigol a ddewisiwyd i ffurfio cerdyn #CaruTKB
Weithiau, mae’n helpu i gymryd golwg ar le sydd mor gyfarwydd inni trwy lens newydd – ac roedd hyn yn llywio ein hymagwedd ac ymgyrch cardiau post #CaruTKB a ddefnyddiwyd ganddon ni i fywiogi’r gymuned leol. Trwy wahodd pobl i feddwl fel taen nhw ar eu gwyliau, ac edrych ar eu milltir sgwâr gyda balchder, rydym yn annog pobl leol, ymwelwyr a phobl ar eu gwyliau, i chwilio am swyn ac apêl TKB yn ogystal â ffyrdd o wella'r lle.
O’n sgyrsiau, rhannu atgofion, straeon a myfyrdodau, rydym yn gobeithio llunio Cynllun Lle ar gyfer yr ardal – sydd â chefnogaeth pobl leol ond sydd hefyd yn cael ei hysbysu gan farn ymwelwyr a phobl ar eu gwyliau.
Wedi’u hysgogi gan ein trafodaeth am wyliau’r gorffennol pell, aeth fy rhieni, sy’n byw yn yr Wyddgrug, yn ddiweddar, ar daith arfordirol drwy’r Rhyl, Towyn a Bae Cinmel, gan orffen ym Mhensarn/Abergele cyn mynd adref ar yr A55. Roedd eu mewnwelediad am y lle yn ddefnyddiol iawn ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy gan ymwelwyr eraill a phobl ar eu gwyliau wrth i ni ddod groesawu'r Gwanwyn a'r diwydiant gwyliau yn paratoi ar gyfer gwyliau'r Pasg. Mae barn y bobl sy’n ymweld â Thowyn a Bae Cinmel i gael seibiant, i adfywio, ac i fwynhau wrth hamddena yn hollbwysig i ddeall stori TKB fel lle.
Yr hyn sydd hefyd wedi fy nharo yn fy sgyrsiau gyda phobl imi eu cyfarfod yn Nhowyn a Bae Cinmel yw faint o bobl leol sy'n cofio gwyliau hudolus fel plentyn neu deulu yn dod o Ogledd-orllewin Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ac weithiau ymhellach i ffwrdd, ac mae'r profiadau hyn yn ddiweddarach mewn bywyd wedi'u hysbrydoli i adleoli i Dywyn a Bae Cinmel oherwydd ei thraethau, yr agosrwydd at natur, ac am fod yn fan cychwyn gwych ar gyfer ymweld â rhannau eraill o Ogledd Cymru. Fe ddewch chi o hyd i adleisiau o'r stori honno wedi'i hailadrodd yng nghymunedau Facebook Towyn a Bae Cinmel, wedi'i hysgogi gan lun o Bont Y Foryd, neu hen lun a rannwyd. Mae eraill – wedi’u geni a’u magu yn yr ardal neu’r Rhyl – a oedd wedi gwneud eu ffordd i ochr arall pont Y Foryd – hefyd yn sôn am fanteision byw mewn tref glan môr, a’r teimlad eu bod hwythau’n gallu drachtio rhywfaint o’r ysbryd gwyliau hwnnw.
Mae’r sylwadau hyn yn dweud llawer am apêl a swyn parhaus Towyn a Bae Cinmel, sydd heb os yn gweld ei hun weithiau fel y berthynas dlawd, lle i basio drwodd o’r Rhyl i Bensarn neu Landudno, a lleoliadau twristaidd eraill.
Mae’n well gen i weld Towyn a Bae Cinmel, fel man hyfryd gyda’i swyn unigryw ei hun, mynediad rhwydd i fannau eraill ac yn gartref i gymuned amrywiol o bobl sy’n angerddol am y lle maen nhw’n byw, neu’n adfer ynddo, ac yn angerddol am ei wella ar gyfer y dyfodol.
Mae dyfodol Tywyn a Bae Cinmel yn ddisglair.
Oes gennych chi atgof gwyliau melys neu luniau o TKB i'w rhannu?
Beth am anfon cerdyn post aton ni? Gwell fyth, rhannwch eich stori neu gipluniau gwyliau a pham roedd TKB yn lle gwych i fod ar wyliau neu’n le gwych i fod ar ein tudalen Barn a Newyddion. Sgroliwch i lawr i'r ffurflen rhannu eich stori.
Fe fasen ni hefyd wrth ein bodd os wnewch chi ddweud wrthon ni pa strydoedd neu fannau sy'n hoff ganddoch chi, a'r rhai yr hoffech weld yn cael eu gwella trwy ymweld â'n map digidol rhyngweithiol. Cewch gofrestru eich sylwadau tan Ebrill 18fed.
Comments